Cannoedd yn angladd y 'cawr gwleidyddol' Dafydd Elis-Thomas

- Cyhoeddwyd
Mae angladd cyn-arweinydd Plaid Cymru a Llywydd cynta'r Senedd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Roedd cannoedd yn bresennol - yn eu plith y Prif Weinidog a chyn-brif weinidogion y Senedd, aelodau presennol a blaenorol y cabinet, gweision sifil a degau o wleidyddion eraill o bob plaid.
Yn bresennol hefyd roedd cynrychiolwyr o fyd y celfyddydau, y wasg a'r rhai y cyfarfu yr Arglwydd Elis-Thomas â nhw yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd Bwrdd yr Iaith a'i gyfnod yn weinidog diwylliant.
Bu farw'r Arglwydd Elis-Thomas ar 7 Chwefror yn 78 oed, yn dilyn salwch byr.
Cynrychiolodd etholaeth Dwyfor Meirionnydd ym Mae Caerdydd am 22 mlynedd, ar ôl treulio 18 mlynedd fel Aelod Seneddol yn San Steffan.

Tri Aelod Seneddol Plaid Cymru a gafodd eu hethol i San Steffan yn 1987; Ieuan Wyn Jones, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley
Yn ystod yr angladd fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan ddarllen adnodau 4-9 o Philipiaid 4 a darllenodd Robin Llywelyn y gerdd 'Pa Beth yw Dyn">