/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cymru wedi profi'r gwanwyn brafiaf ar gofnod eleni - Swyddfa Dywydd

Afon Clwyd yn iselFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd heulog a sych wedi cael effaith ar lefelau dŵr mewn sawl ardal, fel Afon Clwyd yma

  • Cyhoeddwyd

Fe gafodd Cymru'r gwanwyn brafiaf ar gofnod eleni, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Cafodd 648 awr o heulwen eu cofnodi rhwng 1 Mawrth a 28 Mai - sy'n uwch na'r cyfartaledd dros y DU.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod y ffigwr yn curo'r record flaenorol o 647 awr yn 2020.

636.8 awr o heulwen oedd y ffigwr cyfartalog dros y DU eleni, cynnydd o'r ffigwr o 626 yn 2020.

Mae Cymru, Yr Alban ac Iwerddon wedi gweld recordiau newydd eleni, ond nid Lloegr.

Fe fydd y ffigyrau am law yn cael eu rhyddhau yn fuan, gyda disgwyl iddynt ddangos bod y DU wedi profi gwanwyn sych iawn.

Mae Cymru wedi gweld nifer o danau gwair dros wythnosau diweddar, ac yr wythnos diwethaf fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru roi'r wlad mewn statws o 'gyfnod sych estynedig'.

Pynciau cysylltiedig