/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Angen cadw holl rannau amgueddfeydd Cymru am ddim i bawb'

Pwll Mawr Amgueddfa Lofaol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae bellach yn costio £8 i fynd dan ddaear ym Mhwll Mawr - gyda nifer cyfyngedig o docynnau £5 ar y dydd

  • Cyhoeddwyd

Dylai'r llywodraeth sicrhau bod holl safleoedd Amgueddfa Cymru ar agor am ddim i'r cyhoedd fel mater o egwyddor, yn ôl pwyllgor o Aelodau'r Senedd.

Daw hynny mewn ymateb i gynllun prawf diweddaraf Pwll Mawr ym Mlaenafon, sydd nawr yn codi tâl o £8 i fynd dan ddaear ar y safle.

Yn ôl y pwyllgor diwylliant, dylai Llywodraeth Cymru gynnig digon o arian i Amgueddfa Cymru fel nad oes angen iddyn nhw gymryd camau o'r fath.

Dywedodd Amgueddfa Cymru y byddan nhw'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, fydd nawr yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad.

'Mae e'n werth am arian'

Ar hyn o bryd mae Amgueddfa Cymru'n rhedeg saith safle ar draws y wlad – gan gynnwys yr Amgueddfa Lofaol ym Mlaenafon.

Mae eu safleoedd eraill yn cynnwys yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, yr Amgueddfa Wlân yn Dre-fach Felindre, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Maen nhw hefyd yn gyfrifol am yr Amgueddfa Lleng Rufeinig yng Nghaerllion, yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, a'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Er bod mynediad i'r holl safleoedd hynny am ddim, mae'r amgueddfeydd weithiau'n codi tâl am arddangosfeydd arbennig.

Savannah Knox o Ontario, Canada
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Savannah Knox o Ganada ei bod hi wedi arfer talu i ymweld ag atyniadau hanesyddol

Ac ers mis Ebrill, mae Pwll Mawr yn codi £8 i ymwelwyr fynd ar eu taith danddaearol – cyfnod prawf fydd yn rhedeg tan fis Gorffennaf 2026.

Ar ymweliad o Ontario, Canada, doedd Savannah Knox "ddim yn meindio" talu rhywfaint am y profiad.

"Mae'n eitha' cyffredin lle dwi'n dod i lefydd hanesyddol fel amgueddfeydd i godi pris, gan fod o'n helpu gyda chostau cynnal y lle, a thalu staff," meddai.

"Felly mae'n iawn os yw'r arian yn mynd yn ôl i mewn i'r safle."

Deborah Clubb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Deborah Clubb o Ferthyr Tudful wedi arfer gallu mynd i lawr i'r pwll glo am ddim yn y gorffennol

Fel mam i chwech o blant, roedd Amy Hughes o Aberdâr wedi gobeithio y byddai tocyn teulu ar gael.

"Fi wedi bod sawl gwaith am ddim o'r blaen, felly mae'n gwneud i fi feddwl eto am fynd â fy mhlant i gyd lawr yna," meddai.

"Ond mae e'n werth da am arian, i fynd dan ddaear a gweld pwll glo go iawn."

Er bod Deborah Clubb o Ferthyr Tudful wedi cael profiad "grêt" yno o'r blaen, mae hi hefyd yn petruso am y gost.

"Mae'n golygu falle bydden i'n mynd yn llai aml nag o'r blaen, achos roedd cael e am ddim yn rhan o'r atyniad – rhywbeth roeddech chi'n gallu gwneud fel teulu heb feddwl gormod am y peth," meddai.

Sue Hogan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sue Hogan, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn arwain taith gerdded o gwmpas safleoedd hanesyddol ardal Blaenafon yr wythnos nesaf

Mae Sue Hogan yn arwain teithiau cerdded ac yn ymddiddori yn hanes yr ardal, ac yn teimlo bod mynediad i'r safleoedd treftadaeth yn hollbwysig.

"Yn enwedig i bobl ifanc, mae'n bosib bod eu rhieni neu cyndeidiau yn gweithio yn y pyllau glo neu'r gweithfeydd," meddai.

"Dwi wedi bod yma dair gwaith, a bob tro wedi mwynhau'r profiad."

Peidio talu yn 'fater o egwyddor'

Yn eu hadroddiad, dywedodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd y dylai'r egwyddor o fynediad am ddim gael ei gadw – gan gynnwys i deithiau tanddaearol Pwll Mawr.

Roedd hyn, meddai'r pwyllgor, yn dilyn "degawd o doriadau cyllid" i ddiwylliant, gyda Chymru nawr yn gwario llai yn y maes fesul person nag unrhyw wlad Ewropeaidd arall.

Ond fe wnaeth yr adroddiad hefyd nodi bod treialon blaenorol ym Mhwll Mawr wedi canfod bod 98% o ymwelwyr "yn fodlon â'r swm a dalwyd ganddynt".

Roedd 40% hefyd wedi awgrymu y bydden nhw wedi bod yn "fodlon talu mwy", gydag Amgueddfa Cymru'n ychwanegu bod nifer yr ymwelwyr wedi aros yn "gyson" drwy'r treialon.

gweithiwr ym Mhwll Mawr, ger y lifft sy'n cludo pobl i lawr
Disgrifiad o’r llun,

Un o brif atyniadau Pwll Mawr yw'r cyfle i deithio lawr yn y lifft i weld yr hen bwll glo

Dywedodd eu prif weithredwr Jane Richardson wrth y pwyllgor fod "gwahaniaeth" hefyd rhwng cost rhedeg arddangosfeydd arferol, a'r "broses lafurus" o redeg y teithiau tanddaearol.

Serch hynny, dywedodd cadeirydd y pwyllgor Delyth Jewell AS y dylai'r llywodraeth fod yn cyllido'r amgueddfeydd i lefel "sy'n cydnabod gwerth ein diwylliant".

"Mae mynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn bolisi llwyddiannus, ac rydym am ei weld yn parhau," meddai.

"Fel mater o egwyddor, ni ddylai neb orfod talu i fwynhau casgliadau sy'n eiddo i bobl Cymru.

Pwll Mawr gyda Blaenafon yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Amgueddfa Cymru, mae mwyafrif y bobl sy'n mynd ar y daith dan ddaear yn ymwelwyr tro cyntaf neu untro

"Fel ceidwaid hanes ein cenedl, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i ariannu ein sefydliadau cenedlaethol yn ddigonol, fel y gallant fforddio darparu mynediad am ddim i bawb.

"Ni fu'n diwallu'r cyfrifoldeb hwn."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw nawr yn ystyried yr argymhellion.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gadw mynediad am ddim i'n casgliad cenedlaethol, a sicrhau bod modd i bawb ei weld," meddai llefarydd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: "Rydym yn ddiolchgar i'r pwyllgor am ystyried y mater ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad."