/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Trafod 'tabŵ' trais cyllell yng Nghymru ar lwyfan Miss World

Dynes yn ei hugeiniau gyda gwallt tywyll hir yn gwisgo siaced pinc yn syllu at y camera. Yn y cefndir gellir gweld stryd prysur
Disgrifiad o’r llun,

Mae Millie-Mae Adams yn benderfynol o ddefnyddio'i phrofiadau o'i phlentyndod i wneud gwahaniaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae Millie-Mae Adams wedi treulio'r mis diwethaf yn cario gobeithion Cymru fel cystadleuydd ar lwyfan Miss World yn Hyderabad, India.

Ond bydd y fenyw 22 oed hefyd yn edrych i ddefnyddio'r platfform byd-eang i dynnu sylw at "destun tabŵ" troseddau cyllell ymhlith pobl ifanc.

Wrth gael ei magu yng Nghaerau yng ngorllewin Caerdydd, roedd hi'n ymwybodol o drais gangiau yn ei hardal.

Felly pan symudodd i'r brifysgol, dechreuodd hyfforddi pobl ifanc ar sut i ddelio ag anafiadau trawmatig, gan gynnwys trywanu.

Dywedodd fod troseddau cyllyll wedi dod yn normal, a "fi'n credu dylse bod pob person ifanc gael y siawns i allu delio gyda'r sefyllfa os y'n nhw'n gweld eu hun ynddo fe".

Millie-Mae Adams yn edrych allan o ffenest fawr.Ffynhonnell y llun, Millie-Mae Adams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Millie-Mae Adams yn un o 108 o fenywod sy'n cystadlu am deitl Miss World 2025

Yn ystod ei hastudiaethau i fod yn feddyg yng Nghaerwysg y sylweddolodd Millie-Mae y gallai wneud defnydd o'i hyfforddiant meddygol, pan sefydlodd gangen o StreetDoctors.

Mae'r elusen yn hyfforddi pobl ifanc i ddelio â chanlyniadau corfforol a seicolegol trais ar y stryd ar draws 20 o ddinasoedd yn y DU, gan gynnwys Caerdydd.

"Wnes i dyfu lan yn gweld lot o drais a gangiau yn y gymuned, ac o'n i'n teimlo ddim rili yn ddiogel lle o'n i'n byw", meddai.

"So o'n i'n edrych am elusen fel StreetDoctors, sy'n helpu pobl ifanc i allu delio gyda hyn."

Disgrifiad,

Dywedodd Millie-Mae Adams ei bod wedi "tyfu lan yn gweld lot o drais a gangiau yn y gymuned"

Dywedodd y gall trais gyda chyllyll ddigwydd yn unrhyw le.

"Fi'n credu mae'n haws i deimlo fel bod e ddim yn digwydd tu allan i tŷ ti, ond mae e.

"Mae'n digwydd ar draws Cymru i gyd, nid jyst yng Nghaerdydd, so ni angen i fwy o bobl weld bod e yn digwydd a ni angen helpu pobl ifanc i ddelio gyda'r sefyllfa.

"Mae'n shocking a mae'n drist, ond mae'n real a mae'n digwydd bob dydd."

Dywedodd y dylai pobl beidio rhoi'r bai ar bobl ifanc, ac y dylai pob person ifanc gael y wybodaeth a'r sgiliau i ymateb i drais cyllyll os ydyn nhw'n dod ar ei draws.

Mae Millie-Mae wedi darparu sesiynau yn Gymraeg, gan gynnwys i aelodau'r Urdd.

Ar ôl cael ei choroni'n Miss Cymru yn 2023, cafodd y cyfle i gystadlu yn Miss World 2025, gan ddewis tynnu sylw at droseddau cyllyll a gwaith StreetDoctors yn y pasiant mis o hyd yn India.

Mae un elfen o'r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar achos sy'n agos at galon y cystadleuwyr.

Daeth Millie-Mae yn gyntaf yn Ewrop am ei chyflwyniad.

Bydd y gystadleuaeth yn cyrraedd ei huchafbwynt ar 31 Mai, pan fydd Miss World 2025 yn cael ei choroni.

Dau gwr yn eu 20'au yn gwisgo crysau T coch 'StreetDoctors'. Mae nhw'n gwneud cyflwyniad o flaen dau bobl ifanc sy'n eistedd ar gadeiriau yn edrych arnyn nhw. Mae bwrdd a bwced nesaf iddynt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efan Fairclough yn arwain sesiynau StreetDoctors i bobl ifanc yn ne Cymru

Mewn sesiynau sy'n cael eu cynnig am ddim gan StreetDoctors, mae gwirfoddolwyr fel Millie-Mae yn rhoi cyngor i bobl ifanc "sut i wneud R, y recovery position a beth i wneud os maen nhw'n ffeindio eu hun mewn sefyllfa lle mae trais cyllell wedi digwydd".

Mae Efan Fairclough o Bontybridd yn dweud fod y sesiynau yn cyflawni swydd bwysig arall.

"Ni'n trafod y gwahanol effeithiau y gall trais gael ar bobl, fel ar iechyd meddwl neu ar y gymuned ac ar y corff - heibio i jyst pobl yn marw.

"Mae hwnna'n bendant yn cael trwodd i bobl rwy'n credu.

"Maen nhw'n faterion sydd yn obvious iawn ym mywydau'r bobl ifanc yma, ac yn bendant maen nhw yn engagio yn rili dda gyda be' ni'n dysgu nhw."

Mae sesiynau StreetDoctors yn dysgu pobl ifanc beth i wneud os ydyn nhw'n gweld argyfwng
Disgrifiad o’r llun,

Mae sesiynau StreetDoctors yn dysgu pobl ifanc beth i wneud os ydyn nhw'n gweld argyfwng

Yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2024 - roedd 50 o droseddau cyllyll i bob 100,000 o bobl yng Nghymru.

Roedd y gyfradd uchaf - 67 i bob 100,000 - yn ardal Heddlu Gwent.

Fodd bynnag, roedd hynny'n cymharu â 188 fesul 100,000 yn Llundain a 156 yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, yn ôl data y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dolen allanol.

Mae ffigyrau gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn dangos bod ychydig dros 3,200 o droseddau cyllyll neu arfau ymosodol wedi'u cyflawni gan blant 10-17 oed yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024.

Mae hyn 20% yn fwy na degawd yn ôl, ond 6% yn llai na'r flwyddyn flaenorol, a'r chweched gostyngiad blynyddol yn olynol.

Roedd oedolion yn llawer mwy tebygol o gyflawni troseddau gyda chyllyll, gyda phobl dros 18 oed yn cyfrif am 83% o'r cyfanswm.

'Pwysig peidio pardduo plant'

Er gwaethaf sylw yn y cyfryngau ar ymosodiadau cyllyll ymhlith pobl ifanc wedi i ddau athro a disgybl gael eu trywanu yn Rhydaman, mae arbenigwyr yn dweud y dylid cadw troseddau cyllyll yn eu cyd-destun.

Mae Dr Rhian Croke o Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru yn dweud er bod rhaid mynd i'r afael â digwyddiadau "mae'r un mor bwysig i beidio pardduo plant".

"Mae'n debygol nad yw'r rhan fwyaf erioed wedi ystyried cario na defnyddio cyllell," meddai.

Ychwanegodd fod plant yn fwy tebygol o fod yn rhan o drais mewn ardaloedd ag amddifadedd uchel a phroblemau cymdeithasol eraill.

"Mae atal troseddau cyllyll yn golygu mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol," meddai.