Bocsys Noa: 'Dwi isho 'neud bywyd yn haws i bawb'

Emma a Noa
- Cyhoeddwyd
Mae aros dy dro am apwyntiad yn gallu bod yn ddiflas – ond mae'n arbennig o heriol i blentyn awtistig, fel mae Emma Wyn o Borthmadog yn gwybod.
Mae ei phrofiad hi o aros gyda'i mab Noa am apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd wedi arwain ati'n creu 135 o focsys synhwyraidd i helpu plant awtistig eraill.
"Ges i'r syniad o 'neud y bocsys ar ôl bod mewn apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd – 'nes i feichio crio yn y car wedyn," meddai Emma, sy'n nyrs gymunedol, wrth Cymru Fyw.
"Doedd Noa ddim yn gallu aros, oedd o'n stryglo'n ofnadwy ac o'n i'n meddwl bydd rhaid i fi 'neud rhywbeth i 'neud bywyd yn haws i ni a theuluoedd eraill.
"O'n i jest yn meddwl 'fedra'i ddim 'neud hyn ymhob apwyntiad'.
"O'n i'n torri 'nghalon wedyn ac o'n i ddim isho i un rhiant arall i deimlo fath â 'nes i pan o'n i'n crio yn y car."

Bocsys Noa
Erbyn hyn mae Emma, gyda help Noa, wedi creu 135 o focsys sy' wedi cael eu rhannu rhwng bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, deintyddfa a meddygfa lleol, clwb pêl-droed Wrecsam, Venue Cymru a Stadiwm Principality.
Meddai Emma: "Dwi'n trio cael cymaint o focsys allan yna â phosib."

Emma a Noa yn cyrraedd STōK Cae Ras Wrecsam gyda'u bocsys arbennig
Cafodd Noa, sy'n 10 oed, diagnosis o awtistiaeth yn 2020.
"Doedd Noa ddim yn deall bod o angen eistedd ac aros – bob tro 'da ni'n mynd i apwyntiad mae'n meddwl bod o'n cael mynd yn syth i fewn heb aros.
"Oedd Noa yn taflu ei hun ar lawr, oedd o'n trio dwyn ffon dyn bach oedd yn eistedd ar ymyl ni – oedd o jest yn wyllt, yn rhedeg rownd.
"O'n i jest yn teimlo pan o'n i yna bod pobl eraill yn edrych arno fi a dwi'n cofio clywed dynes yn dweud, 'pam dy' hi ddim yn dweud wrth yr hogyn bach i eistedd lawr a bod yn ddistaw">