Pam ddylai pobl ifanc bleidleisio yn yr etholiad?

Bu Danielle, Harri a Kayla yn rhannu eu barn nhw am yr etholiad gyda BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Ychydig dros bythefnos sydd i fynd cyn i etholwyr benderfynu pwy fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf y DU.
Yn ôl ymchwil y cwmni canfasio barn Ipsos Mori, pobl rhwng 18 a 24 oed sy'n lleiaf tebygol o fwrw pleidlais ar 4 Gorffennaf, ac mae ffydd etholwyr yn y broses ddemocrataidd ar ei lefel isaf erioed.
Fe wnaeth BBC Cymru ymweld â Chasnewydd gan holi pobl ifanc a ydyn nhw'n bwriadu pleidleisio a pha bynciau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.
Dywedodd y mwyafrif nad oedden nhw'n teimlo eu bod yn gwybod digon, bod dim diddordeb o gwbl neu nad oedden nhw eisiau trafod yr etholiad.
Ond roedd rhai yn fodlon egluro pam eu bod nhw'n teimlo bod bwrw pleidlais yn bwysig.
Mae'n hawdd deall pam bod gymaint o ddifaterwch ymhlith rhai, medd yr hanesydd Dr Elin Jones.
"Rwy'n credu bod pobl yn meddwl 'wel, dwi'n iawn ac yn gyffyrddus - be mae'r gwleidyddion wedi ei wneud erioed i mi">