/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Padel yn 'tyfu yn arw o gyflym' gyda bwriad i ddyblu nifer y cyrtiau yn 2026

Pedwar o bobl yn chwarae padel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tennis Cymru yn rhagweld y bydd 6,000 o bobl yn chwarae'r gamp yng Nghymru ymhen blwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ragor o gyrtiau padel ymddangos ar hyd a lled y wlad, mae'r gamp yn "tyfu yn arw o gyflym" yng Nghymru, yn ôl un o swyddogion Tennis Cymru.

Mae'r gamp - gafodd ei sefydlu ym Mecsico yn y 1960au - yn cael ei ddisgrifio fel cyfuniad o dennis a sboncen sy'n cael ei chwarae ar gwrt ychydig yn llai na thennis.

Ar hyn o bryd mae tua 3,600 o bobl yn mynd i chwarae padel yng Nghymru, yn ôl corff llywodraethu'r gamp, Tennis Cymru.

Maen nhw'n rhagweld bydd y ffigwr hwnnw yn tyfu i 4,500 erbyn diwedd 2025 a dros 6,000 erbyn 2026.

Rhian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Griffiths wedi chwarae padel dros Gymru

Mae'n cael ei ystyried hefyd fel camp cynhwysol, sy'n agored i bawb.

Fe ddechreuodd Rhian Griffiths, 62, chwarae dair blynedd yn ôl ac erbyn hyn mae hi'n cynrychioli Cymru.

"I ddechrau nes i chwarae i ar fy ngwyliau yn Sbaen, ac wedyn roedden nhw'n trio cael tîm Cymru at ei gilydd," meddai Ms Griffiths.

"Nes i ddod fan hyn i'r gystadleuaeth a chyrraedd y ffeinal. Wedyn daeth y trials.

"Mae 'na drawstoriad enfawr o bobl yn chwarae. Pobl o bob tras, pob oedran, dros 60, dros 70.

"Dwi'n credu achos bod e'n llai dibynnol ar bŵer, ac wrth gwrs mae'n bosib nag y'ch chi'n gorfod symud o gwmpas cymaint ag sydd ei angen wrth chwarae tennis."

'6,000 o chwaraewyr erbyn 2026'

Mae yna fuddsoddiad hefyd mewn isadeiledd er mwyn chwarae padel.

Tua 17 o gyrtiau padel sydd yng Nghymru ar hyn o bryd - pedair blynedd yn ôl dim ond un cwrt oedd yn y wlad gyfan.

Mae 'na gynlluniau i ddyblu'r nifer i 32 erbyn diwedd 2026.

Ar gaeau Llandaf yng Nghaerdydd mae'r gwaith wedi dechrau ar godi cwrt padel newydd.

Mae'n un o nifer sydd wedi ymddangos yn y brifddinas dros y misoedd diwethaf.

Hywel Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o bobl sydd heb brofiad o chwarae campau eraill yn troi at padel bellach, meddai Hywel Lewis

Mae twf y gamp yn parhau, yn ôl Hywel Lewis, cadeirydd Padel gyda Tennis Cymru, gyda phobl o bob cefndir nawr yn troi at y gamp.

"Pan ddechreues i chwarae, roedd y rhan fwyaf o bobl oedd yn chwarae, o'n nhw 'di chwarae tennis neu sboncen cyn 'ny," meddai.

"Ond be dwi'n gweld nawr yw bod mwy o bobl sydd ddim yn chwarae unrhyw sport arall o gwbl.

"O'n i lawr yng Nghwmbrân ac roedd pedwar ohonom ni oedd yn chwarae i safon eitha' da, ac roedd pob cwrt arall gyda phobl oedd ddim yn chwarae unrhyw gamp arall o gwbl.

"Dwi'n gweld e'n tyfu yn arw o gyflym."

O Mecsico i Gymru

Enrique Corcuera, dyn busnes o Fecsico, oedd y cyntaf i adeiladu cwrt padel, a hynny yn ei gartref gwyliau yn Acapulco ym 1969.

Yno, fe gododd yr hyn a ddaeth yn gwrt padel - gyda waliau pedwar metr ar bob ochr er mwyn atal y peli rhag dianc i dir ei gymdogion.

Cyn hir fe wnaeth y gamp ledaenu dramor, yn cyrraedd Ewrop a'r Deyrnas Unedig.

Yn 1992 fe gafodd Cymdeithas Padel Prydain ei sefydlu.

Ers hynny mae'r gamp wedi tyfu trwy Brydain, ac yn 2020 fe gafodd Tennis Cymru ei gydnabod fel y corff llywodraethu ar gyfer padel yng Nghymru.

Erbyn hyn ma' pencampwriaethau sirol yn cael eu cynnal, ac mae Tennis Cymru yn gobeithio cynnal cystadlaethau rhyngwladol yn y dyfodol.