Bathu geiriau: Pam bod rhai yn cydio ac eraill ddim?
- Cyhoeddwyd

Sut mae geiriau'n dod i fodolaeth a pham bod rhai yn aros yn ein geirfa a rhai eraill yn mynd yn angof?
Roedd Delyth Prys, Pennaeth Technoleg Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, yn trafod y broses o fathu geiriau, a pha eiriau newydd sy'n cydio neu gwympo wrth ymyl y ffordd ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru.
Dyma enghreifftiau o eiriau newydd sydd wedi llwyddo ac mewn defnydd a rhai wnaeth ddim dod yn rhan o'n geirfa.
Tri sydd wedi cydio

Hunlun
Dyma fathiad diweddar, wrth i dechnoleg newydd alluogi pobl i ddechrau cymryd selfies.
"Mae lot o bobl wedi dweud wrtha i 'Fi ddyfeisiodd y term hunlun ti'n gwbod">