/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd: Seremoni y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y Fedal Ddrama

Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn Mawr ddydd Iau.

Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Y beirniaid eleni oedd Steffan Donnelly, Elgan Rhys a Seiriol Davies.

Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.

Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, a £750 o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli.

Gwobrwyir drama sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Os bydd teilyngdod cyflwynir rhan o'r gwaith gyda chefnogaeth Cronfa Goffa J O Roberts.

Daeth Gruffydd i'r brig gyda'i ddrama 'Nyth' - ei ffugenw oedd 'Dy Fam'
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Gruffydd i'r brig gyda'i ddrama 'Nyth' - ei ffugenw oedd 'Dy Fam'

Gruffydd Siôn Ywain, o Ddolgellau yn wreiddiol, oedd enillydd y fedal hon yn 2022.

Daeth i'r brig gyda'r ddrama 'Nyth' mewn cystadleuaeth a ddenodd 15 o ymgeiswyr.

Yn y Pafiliwn Mawr hefyd ddydd Iau fe fydd cystadleuaeth y Rhuban Glas Offerynnol i rai o dan 19 a Gwobr Goffa Osborne Roberts - sef y Rhuban Glas i gantorion 19 ac o dan 25 oed.

Eisteddfod
Eisteddfod