Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Nia Edwards-Behi a Leo Drayton fydd yn trafod sut mae ffilmiau bellach wedi datblygu i fod yn fwy cynhwysol ac yn ymarfer cywirdeb gwleidyddol.
Sylw i gyfrol 'A Welcoming Nation' sy'n mynd i'r afael â'r dadleuon cyfoes am fudo i, o, a thrwy Gymru gan ystyried pa mor groesawgar ydan ni fel cenedl yng nghwmni un o'r Golygyddion Dr Catrin Wyn Edwards,
Ac wrth i ni barhau i ddathlu tymor Merthyr yma ar Radio Cymru, cawn glywed am hanes Katie Phillips o'r dref sydd wedi'i phenodi yn un o Swyddogion Cyfathrebu a Chysylltiadau Gwleidyddol Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg.