/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyngor Gwynedd: Cymeradwyo cynllun prynu 100 tŷ fforddiadwy

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dan ni 'di cael ein prisio allan o'r pentref'

Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo "cynllun uchelgeisiol" i fenthyca £15.4m er mwyn prynu tua 100 o dai a'u gosod ar rent fforddiadwy.

Roedd y cyngor eisoes wedi datgan mai bwriad y cynllun yw darparu mwy o lefydd i bobl ddigartref, codi mwy o dai cymdeithasol i'w gosod i bobl leol a dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd.

Mae'r cynlluniau i brynu 100 o dai yn rhan o gynllun ehangach gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr oedd yn cynnwys dros 30 o brosiectau i "daclo'r heriau ym mhob rhan o'r sector dai".

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd y byddai'r cynllun yn "helpu oddeutu 100 o unigolion neu deuluoedd i fedru byw yn lleol".

Ar hyn o bryd, mae tua 2,700 o bobl ar restr aros am dai yng Ngwynedd ac mae'r cyngor yn amcangyfrif bydd yr holl brosiect yn costio £77m.

Un ateb yn ôl y cyngor fyddai codi rhan o'r arian drwy godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi.

Ychwanegodd y Cynghorydd ab Iago: "Rwyf yn hynod o gyffrous am y cyfnod nesaf yma pan fyddwn yn gwireddu cynlluniau uchelgeisiol ein Cynllun Gweithredu Tai, gyda nifer o'r rheiny ar droed yn barod.

"Ein bwriad ydy cynyddu'r cyflenwad o dai ar gyfer ein pobl er mwyn rhoi cyfle teg iddynt fyw yn eu cymunedau - rhywbeth a fyddai fel arall allan o'u cyrraedd.

"Fe fydd yn gam mawr tuag at ein nod o sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy'n fforddiadwy ac sy'n gwella eu hansawdd bywyd," meddai.

Pynciau cysylltiedig