Mab cwpl, wedi'u cyhuddo o lofruddio ŵyr, wedi'u galw'n 'gurwyr plant'

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys manylion a allai beri gofid.
Roedd mab cwpl sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr yn galw ei rieni yn "gurwyr plant", mae llys wedi clywed.
Bu Ethan Ives-Griffiths, dwy oed, yn byw gyda'i nain a'i daid cyn iddo farw ar 16 Awst, 2021, o anaf i'w ben.
Mae Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, y ddau o Garden City yn Sir y Fflint, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.
Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed o'r Wyddgrug, yn gwadu cyhuddidau o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb i blentyn.

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr Ethan
Ddydd Llun clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fanylion am negeseuon testun honedig a gafodd eu hanfon gan aelodau o'r teulu Ives at ei gilydd.
Mewn un neges roedd Kerry Ives yn trafod gyda'i mab [sy'n oedolyn] amdano'n symud allan o'i chartref, oherwydd ei bod hi wedi dweud celwydd am ei thenantiaeth.
Yn ystod neges arall dywedodd Kerry Ives: "Y rheswm pam bod Dad wedi dweud wrthot am symud allan yw achos bod ti wedi ein galw yn "gurwyr plant".

Mae Shannon Ives wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn
Atebodd y bydd hi'n rhy hwyr, erbyn yr amser "i chi sylweddoli beth ydych chi wedi ei wneud i ni".
Atebodd Kerry: "Beth mae o wedi'ch rhoi chi trwyddo fo? Dim byd. Cawson ni fagwraeth [ofnadwy], cawsoch chi bopeth oeddech chi'n gofyn amdano."
Dywedodd y byddai ganddo ef broblemau hefyd pe bai ganddo "rieni fel yr oedd gan ei dad - cael eich cicio allan yn ifanc, mynd i gartref plant, cael eich taro bob dydd".
Ychwanegodd Kerry ei bod hi hefyd yn cael ei "tharo bob dydd gan fy mam a fy nhad".
Clywodd y llys fod Michael Ives wedi anfon neges destun at un arall o'i blant, sy'n oedolyn, ar ôl i Ethan symud i fyw gydag ef a Kerry Ives.
Dywedodd pan oedd Ethan yn "ddrwg" fod angen iddo "ddysgu'r ffordd galed".

Clywodd y llys fod Ethan wedi wynebu wythnosau o gamdriniaeth ac esgeulustod yng nghartref ei daid a'i nain
Clywodd y llys hefyd am gyswllt cyson rhwng Shannon Ives a'r gwasanaethau cymdeithasol, ac erbyn Gorffennaf 2021 roedd Ethan, ar y gofrestr amddiffyn plant.
Mewn un neges destun at y gwasanaethau cymdeithasol, gofynnodd Shannon os byddai'r plant yn cael eu cymryd oddi arni.
Yn y pythefnos cyn ei farwolaeth dywedodd yr erlyniad fod Shannon Ives wedi anfon negeseuon yn dweud ei bod hi neu Ethan yn sâl, ond roedd y clipiau teledu cylch cyfyng yn dangos y ddau yn gadael ac yn dychwelyd i'r tŷ.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2024
Cafodd cyfres o glipiau teledu cylch cyfyng eu chwarae i'r rheithgor, a ddaeth o gamerâu diogelwch a oedd wedi'u gosod yng ngardd flaen a chefn y teulu Ives.
Ar 4 Awst 2021 mae fideo yn dangos Ethan yn ei chael hi'n anodd sefyll ar drampolîn wrth i ddau blentyn hŷn arall fownsio o'i gwmpas.
Mewn un fideo mae Shannon Ives yn dringo i'r trampolîn tra bod Ethan yn sefyll yno ac mae'n neidio gan achosi iddo syrthio.
Yn ddiweddarach, mae Michael Ives yn codi Ethan o'r trampolîn gydag un fraich ac yn ei gario'n ôl i'r tŷ.
Ychydig yn ddiweddarach mae Ethan yn ôl ar y trampolîn ac mae'n ymddangos bod Michael Ives yn gwneud ystum gyda llaw gaeedig at blentyn hŷn, sydd wedyn yn ymddangos fel petai'n taro Ethan sawl gwaith ar ei ben.
'Edrych fel ei fod e'n cysgu'
Fe glywodd y rheithgor alwad 13 munud gan Kerry Ives i'r gwasanaeth ambiwlans ar noson 14 Awst 2021.
Dywedodd bod Ethan wedi bod yn gwylio'r teledu ac wedi cwympo: "Syrthiodd i'r llawr, ac mae ei gorff wedi mynd yn hollol wan."
Fe adawodd Michael Ives y tŷ i nôl diffibriliwr ac mae Kerry Ives yn cael cyfarwyddiadau i osod Ethan ar ei gefn a gwirio ei lwybr anadlu.
Ar ôl i Michael Ives ddychwelyd dywedodd bod rhywbeth tebyg wedi digwydd i Ethan y diwrnod cynt ond ei fod wedi dod yn ôl at ei hun.
Aeth ymlaen i ddweud "mae'n edrych fel ei fod yn cysgu".
Daeth yr alwad i ben pan gyrhaeddodd y parafeddygon.
Mae'r achos yn parhau.