/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyn 18 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio tad i saith

Colin RichardsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Colin Richards yn ardal Trelái, Caerdydd.

Fe gafodd Mr Richards, 48, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Snowdon yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad ar Heol-Y-Berllan a Heol Trelái, Caerau, am tua 23:30, ar 7 Ebrill.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod Mr Richards wedi cael ei drywanu, ac er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r tad i saith o'i anafiadau.

Fe wnaeth Corey Gauci, 18 o Drelái, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Mawrth.

Mewn gwrandawiad byr, fe gadarnhaodd ei enw a'i fanylion, cyn codi llaw ar bobl yr oedd yn eu hadnabod wrth adael y doc.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos eto ddydd Mercher.

Mae dyn arall 26 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, ond bydd yn dychwelyd i'r carchar am dorri amodau ei drwydded.

Pynciau cysylltiedig