Eisteddfod yr Urdd: Lluniau dydd Sadwrn

Merched Cor Taflais ar y ffordd i gystadlu, a'n dal i wenu er gwaetha'r glaw
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn wythnos i'w chofio ym Mharc Margam!
Roedd Betsan Evans, Celf Calon yn crwydro'r maes ar ran Cymru Fyw heddiw, ac roedd digon i'w weld ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.

Nel yn ymarfer sgiliau syrcas ar y maes

Michael, Kate, Charlie ac Ollie o Bontypridd, sy'n deulu o siaradwyr Cymraeg newydd. Ar ôl mwynhau cymaint yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, roedd Charlie yn benderfynol o ymweld ag Eisteddfod Dur a Môr eleni

Aelwyd Penrhyd, Llandybie yn paratoi i hoelio'r gystadleuaeth!

Cyfeilyddion profiadol Penrhyd yn barod am y llwyfan

Roedd yr actores Jalisa Phoenix-Roberts wrth ei bodd fod Eisteddfod yr Urdd yn ei milltir sgwâr, yn enwedig gan fod cyfoeth o ddoniau canu ac actio yn yr ardal. Bu hefyd yn dweud pa mor bwysig iddi yw fod y Gymraeg yn cael ei chlywed yn ardal Port Talbot

Mae Trystan a Heledd wedi cael wythnos brysur yn cyflwyno rhaglenni S4C o'r Eisteddfod. Fe fydd rhaglen olaf yr wythnos heno am 18:15 ar S4C, neu gallwch wylio eto ar iPlayer neu S4C Clic

Y gyflwynwraig Mirain Iwerydd yng ngofal y gerddoriaeth ym mhabell Na nOg, a'n edrych ymlaen hefyd at ŵyl Triban heno ar faes yr Eisteddfod

Y grŵp Lan Star yn rocio yng nghystadleuaeth band/arist unigol yn yr Adlen

Iestyn Gwyn Jones, enillydd y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd. Bydd Iestyn hefyd yn perfformio mewn gwyliau eraill yn ystod yr haf, fel rhan o ddeuawd gwerin amgen Cadog

Dadleoli yn perfformio set acwstig ar stondin Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Criw Hansh yn llawn drygioni ar y maes a'n amlwg wedi mwynhau Eisteddfod Dur a Môr!
Fe welwn ni chi yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Mai