/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Gymraeg yn gallu 'agor drysau economaidd' - Drakeford

Dyw'r iaith Gymraeg ddim yn eich "tynnu chi yn ôl o gwbl", ac mae'n gallu "agor drysau economaidd," yn ôl Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford.

Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud y byddan nhw'n rhoi mwy o gefnogaeth i gadarnleoedd y Gymraeg, ar ôl galwadau am "shifft radical" i atal dirywiad yr iaith.

Yn ôl cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, mae'r cyhoeddiad yn "drobwynt hanesyddol" i'r iaith.

Nod y gefnogaeth, sydd wedi'i thargedu at ardaloedd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, yw cryfhau'r iaith yn ei chadarnleoedd.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwell mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o ganllawiau am yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Mr Drakeford fod "y Gymraeg yn helpu chi i gael fwy o gyfleoedd yn y dyfodol".

"Dyna pam dwi'n meddwl bod yr adroddiad yn helpu ni achos mae'n dangos sut allwn ni berswadio pobl sydd yn siarad Cymraeg yn barod i drosglwyddo'r iaith i bobl eraill yn eu teuluoedd nhw, i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau nhw a thrwy hynny, helpu'r Gymraeg i ffynnu yn y cadarnleoedd traddodiadol."