'Braf' cael Fishlock yn ôl yn y garfan cyn dwy gêm bwysig - James
Mae capten Cymru, Angharad James yn falch o gael Jess Fishlock yn ôl gyda'r garfan cyn y gemau'n erbyn Denmarc a'r Eidal yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Doedd Fishlock ddim ar gael ar gyfer y gemau rhyngwladol fis diwethaf oherwydd anaf, ond fe chwaraeodd i'w chlwb Seattle Reign dros y penwythnos.
Mae angen o leiaf pedwar pwynt ar Gymru o'u dwy gêm nesaf os am unrhyw obaith o aros yn Adran A – sef prif haen Cynghrair y Cenhedloedd.
Dyma gemau olaf Cymru cyn Ewro 2025 yn Y Swistir.