/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Positifrwydd Mike Peters 'bendant' yn helpu brwydr canser Rhys Meirion

Mae'r canwr Rhys Meirion wedi dweud bod positifrwydd Mike Peters wedi ei helpu yn dilyn diagnosis o ganser yn ddiweddar.

Daeth miloedd o bobl i angladd Peters, prif leisydd band The Alarm, ddydd Iau.

Bu farw'r cerddor fis diwethaf yn 66 oed, ar ôl byw gyda chanser am 30 mlynedd.

Dywedodd Rhys Meirion, sydd wedi cael llawdriniaeth am ganser yn ddiweddar, nad oedd wedi rhannu ei ddiagnosis gyda Peters cyn ei farwolaeth.

"Ges i'n diagnosis pan oedd o yn dirywio, ac o'n i'm isio ei boeni fo... a'i bositifrwydd o, 'aru hynny bendant helpu fi yn yr wsnose dwytha 'ma, bendant," meddai.

"Oedd o byth yn rhoi fyny, a mae 'na wers yn fan'a i bob un ohono ni dwi'n meddwl."